GWESTY
**** ADCOTE HOUSE


Yng nghanol tref glan môr brydferth Llandudno, Gogledd Cymru

Aros yn AdcoteArchebu lle yn Adcote

Croeso i Adcote House

‍Mae Adcote House yn Llandudno yn Westy 4 Seren gyda Gwely a Brecwast, ac mae'n cynnig llety o safon uchel ioedolion yn unig, a hynny gyda dewis o ystafelloedd gwely cyfforddus a chyfres o ystafelloedd steilus. Rydym yn darparu ar gyfer nifer bach o westeion er mwyn
sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth neilltuol yr ydych yn ei haeddu.

I'r gwesteion craff, mae Adcote House wedi creu steil cyfnod i adlewyrchu oes flaenorol y cartref Fictoraidd, a hynny ochr yn ochr â chyfleusterau ac
amwynderau cyfoes i sicrhau cyfforddusrwydd llwyr ar eich cyfer. Rydym wedi ein lleoli mewn man delfrydol yng nghanol Llandudno, o fewn pellter cerdded hawdd i lan y môr, y siopau a'r amwynderau, felly nid oes angen i chi defnyddio eich car. Gallwch ei adael yn ein maes parcio dros gyfnod eich arhosiad a mwynhau'r cyfoeth o atyniadau lleol.

Pa un a fyddwch yn dewis ystafell wely neu gyfres o ystafelloedd, mae pob un yn en-suite, gyda sylw arbennig yn cael ei roi i bob manylyn a'r safon. Mae croeso cyfeillgar yn aros amdanoch, a hynny mewn amgylchedd hamddenol ac iddo awyrgylch cynnes. Mae ein brecwast yn cynnwys cynnyrch lleol, ac ni chaniateir smygu yn unman.

Mae Adcote House hefyd yn ganolfan ddelfrydol os ydych yn dod i gynhadledd neu yma ar fusnes. Mae ein cyfres o ystafelloedd yn cynnig ystafelloedd eistedd ar wahân, sy'n ofod ychwanegol perffaith.

Adcote House a Llandudno yw'r lle perffaith i archwilio popeth sydd gan Ogledd Cymru i'w gynnig. Rydym mewn lleoliad da ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gyda llu o lwybrau i'w mwynhau. A ninnau wedi ein lleoli yn ymyl Parc Cenedlaethol Eryri, rydym o fewn pellter teithio hawdd i gestyll a threfi hanesyddol. Mae amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau ar gael yn lleol – gofynnwch, a gallwn drefnu pethau ar eich rhan.

Neu, ewch i weld sioe o'r radd flaenaf yn Venue Cymru a sicrhau bod eich
ymweliad yn egwyl go iawn. Mae gan Landudno amrywiaeth o ddigwyddiadau i'w mwynhau yn ystod y flwyddyn, neu cadwch lygad am ein gwyliau arbennig pan gewch gyfle i fwynhau chwarae cerddoriaeth, dysgu canu'r piano neu archwilio'r ardal leol.

Pa beth bynnag yw eich dymuniad, byddwch yn gweld bod Adcote House yn fan lle gallwch ymlacio o ddifrif ynddo.

Mae ein gwefan yn darparu cyflwyniad cynhwysfawr i Adcote House a'r ardal gyfagos. Ar hyn o bryd, mae'r tudalennau eraill yn uniaith Saesneg, ond byddwn yn cynyddu nifer ein tudalennau Cymraeg yn y dyfodol agos.

LLE CARTREFOL

Pa un a ydych yn dod yma i ddibenion hamdden neu fusnes, mae Adcote House yn croesawu grwpiau, cyplau ac unigolion ... oedolion yn unig. Arhoswch am seibiant byr, ychydig nosweithiau, wythnos, neu fwy. Mae ein brecwast ffres yn cynnwys cynnyrch Cymreig lleol, ac yn darparu ar gyfer deietau diglwten, llysieuol ac eraill. Dewch i fwynhau glan y môr, cefn gwlad, cyfleusterau cyfforddus a chroeso cyfeillgar.

EIN LLETY

Mae gan Adcote House radd 4 Seren gan Croeso Cymru, yn ogystal â'n hachrediad Twristiaeth Werdd Arian a'n hachrediad Agoriad Gwyrdd. Rydym yn cynnig dewis o ran ystafelloedd gwely a chyfres o ystafelloedd, ac mae gan bob ystafell ei chyfleusterau en-suite ei hun, cyfleusterau gwneud te a choffi, teledu gyda DVD, radio cloc, sychydd gwallt, a phethau ymolchi ecogyfeillgar.

Mae mynediad Wi-Fi rhad ac am ddim ar gael ym mhobman yn y tŷ. Mae gennym hefyd leoedd parcio am ddim o flaen y tŷ. Ni chaniateir smygu yn unman yn Adcote House ac mae'n westy ar gyfer oedolion yn unig. Mae'n ddrwg gennym na allwn groesawu anifeiliaid anwes. I gael rhagor o fanylion am ein hystafelloedd unigol, cliciwch ar y botwm.

Rhagor o Wybodaeth
Adcote Defnyddiol

Dylech gyrraedd rhwng 14.00 a 21.00, a gadael cyn 10.00. I gael gwybodaeth fanylach am Adcote House a'n cyfleusterau, cliciwch ar y botwm.




Rhagor o Wybodaeth
O Gwmpas Adcote

Mae Llandudno ac ardal gyfagos Eryri a Gogledd Cymru yn cynnig antur, diwylliant, treftadaeth, hanes, tirwedd a gweithgareddau... yn ogystal â chyfleoedd i ymlacio. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y botwm.


Rhagor o Wybodaeth
Yr Hyn Syddar y Gweill

Mae gan Landudno raglen o ddigwyddiadau, sioeau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn, sy'n cael eu cynnal mewn mannau sy'n amrywio o leoliadau clyd i leoliadau theatr a chynadledda o safon. I weld beth sydd ar y gweill, cliciwch ar y botwm.

Rhagor o Wybodaeth
Adcote Gwyrdd

Rydym yn falch o fod wedi cael achrediadau gan Twristiaeth Werdd (Arian), Agoriad Gwyrdd ac Arweinwyr Gwyrdd am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y botwm.


Rhagor o Wybodaeth

AROS YN ADCOTE

Ein nod yw rhoi sylw personol cyfeillgar i'n holl westeion trwy gydol eich arhosiad. Pa un ai archebu lle ar gyfer pryd gyda'r nos neu eich cynorthwyo gyda'n gwybodaeth leol am fannau i ymweld â nhw a'u harchwilio, byddwch yn gweld ein bod yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eich bod yn cael yr amser gorau erioed gyda ni. Rydym yn falch ein bod yn cyflawni sgorau uchel yn rheolaidd ar safleoedd adolygu ar gyfer gwesteion, a hynny gyda Thystysgrifau Rhagoriaeth gan TripAdvisor, Gwobr Aur o Hotels.com, a gwobrau eraill tebyg, yn ogystal â bod yn y 10 uchaf yn rheolaidd yn Llandudno ar TripAdvisor.

Rhagor o Wybodaeth

Mae rhedeg Adcote House mewn modd cynaliadwy, a hynny gyda pharch at yr amgylchedd, wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn defnyddio cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, ac yn ailgylchu cymaint ag y gallwn. Rydym wedi cael achrediad am ein hymrwymiad gan Twristiaeth Werdd (Arian), Agoriad Gwyrdd ac Arweinwyr Gwyrdd, ac rydym yn ymfalchïo ein bod wedi cael ein rhoi ar y rhestr fer ar gyfer sawl gwobr ranbarthol a chenedlaethol.

EIN ETHOS

ORIEL FFOTOGRAFFAU

LLEOLIAD ADCOTE

Rhagor o Wybodaeth
Call us now on / Ffoniwch ni ar   01492 871 100
Copyright / Hawlfraint © 2016--2019. Adcote House
All rights reserved / Cedwir pob hawl. - Privacy Policy / Polisi Preifatrwydd
Design & Hosting Core Websites